Pam yr enw Geirfan?
Gair portmanteau yw
Geirfan, canlyniad dod a'r geiriau
gair a
man at ei gilydd.
Byddwch chi'n gweld yr un newid i lafariaid
gair pan fydd yn ymddangos fel rhan o eiriau eraill, fel
geiriadur a
geirfa.
Pwy sy wedi creu Geirfan?
Ysbrydolwyd
Geirfan yn wreiddiol gan brosiect i greu rhestri geiriau Cymraeg aml-eu-defnydd, yn addas at ddysgwyr. Roedd tîm y brosiect yn cynnwys ymchwilwyr o
Brifysgol Caerdydd, gan gynnwys arweinydd y
prosiect Dawn Knight a'r prif ymchwilydd Bethan Tovey-Walsh, ynghyd â bwrdd ymgynghorol yn
cynnwys cydweithwyr o'r
Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol (Helen Prosser),
CBAC (Emyr Davies), a
CorCenCC (Steve Morris).
Crewyd gwefan Geirfan gan Bethan Tovey-Walsh, er mwyn dangos sut y gellir defnyddio data'r
prosiect fel sail ar gyfer deunyddiau dysgu Cymraeg.
Sut ydych chi'n dewis y geiriau sy'n cael eu cynnwys yn Geirfan?
Seiliwyd rhestr eiriau Geirfan ar y
rhestr o 500 eiriau a grëwyd gan y brosiect academaidd disgrifiwyd uchod. Rhestr ydy hi
o'r geiriau rydych chi fwya tebygol o ddod ar eu traws mewn Cymraeg cyfoes, gyda rhai
newidiadau i'r rhestr ar sail adborth gan diwtoriaid Cymraeg am y mathau o eirfa sydd fwya defnyddiol i'w myfyrwyr.
Ar hyn o bryd, rydym yn gweithio o restr o tua 600 o eiriau. Cafodd
y rhestr yma ei llunio gan ddefnyddio data o
CorCenCC, y Corpws Cenedlaethol Cymraeg Cyfoes. Casgliad ydy
CorCenCC o dros 11 miliwn o eiriau o Gymraeg llafar, ysgrifenedig, ac electronig gafodd eu casglu yn ystod y deng mlynedd diwetha. Mae'n cynrychioli'r corpws mwya o Gymraeg cyfoes mewn bodolaeth, ac mae'n taflu goleuni amhrisiadwy ar sut mae'r Gymraeg yn cael ei defnyddio heddiw.
O'r rhestri amrwd o'r geiriau mwya aml eu defnydd yn
CorCenCC, gweithiodd y tîm i greu rhestr graidd o eitemau geirfa
fyddai'n fwya defnyddiol i ddysgwyr ar lefelau A1/A2. Roedd y cam yma yn cynnwys ystyried
barn tiwtoriaid Cymraeg ar ba mor ddefnyddiol fyddai mathau gwahanol o eirfa, a datblygu
egwyddorion er mwyn nodi geiriau nad oedden nhw'n addas ar gyfer geiriadur i ddysgwyr. Os
hoffech weld y rhestri amlder, a chanfod mwy ynglyn â'r broses o lunio rhestri'n addas at
ddysgwyr, mae canlyniadau'r prosiect
ar gael
yma. (Mae papur academaidd hefyd ar y gweill;
ychwanegaf ddolen yma pan fydd ar gael.)
Cafodd y chwe deg gair cyntaf i'w hychwanegu i fersiwn beilot Geirfan eu dewis er mwyn dangos ystod lawn y cynnwys; fodd bynnag y nod yw ychwanegu at y geiriadur dros amser. Felly mae ambell deulu o eiriau yma sy'n perthyn yn agos, ond hefyd mae eraill a all ymddangos fel tasen nhw wedi cael eu dewis ar hap. Mae'r rhain bron bob amser yn enghreifftiau o fathau penodol o eiriau roedd angen eu cynnwys er mwyn profi sut byddai'r safle yn gweithio a dangos beth allai Geirfan ei wneud.
Ar gyfer pwy mae Geirfan?
Mae'r brif gynulleidfa yn cynnwys unrhyw un sy'n dysgu Cymraeg. Gan ein bod ni'n canolbwyntio ar hyn o bryd ar greu cofnodion ar gyfer y geiriau mwya cyffredin yn y Gymraeg, mae'r geiriadur yn fwy tebygol o fod yn ddefnyddiol i ddechreuwyr (lefelau A1/A2). Fodd bynnag, mae'r cofnodion yn gynhwysfawr ac yn rhoi llwyth o wybodaeth ychwanegol, fel dyfyniadau, awgrymiadau am sut i'w defnyddio, gwybodaeth am wreiddiau geiriau, a rhestri o eiriau cysylltiedig. Rydym yn gobeithio y bydd y nodweddion hyn yn ddefnyddiol i ddysgwyr ar unrhyw lefel, a hefyd efallai i siaradwyr rhugl y Gymraeg.
Gallai Geirfan fod yn ddefnyddiol hefyd i athrawon, a rhieni plant mewn addysg cyfrwng Cymraeg.
Ydy Geirfan yn addas i blant?
Nod Geirfan yw rhoi gwybodaeth gynhwysfawr am y geiriau sy'n cael eu rhestru yn ein geiriadur, gan gynnwys unrhyw ystyron tramgwyddus, neu ystyron sy'n ymwneud â phynciau sensitif. Mae cynnwys yr ystyron yma yn hanfodol fel gall dysgwyr osgoi defnyddio gair tramgwyddus yn ddamweiniol neu greu double entendre yn anfwriadol. Fodd bynnag, mae'n golygu efallai byddai'n well gennych chi edrych ar y cynnwys ymlaen llaw cyn ei ddangos i blant iau.
Hefyd, gallai'r iaith sy'n cael ei defnyddio ar gyfer diffiniadau ac esboniadau yn Geirfan fod yn anodd i blant iau. Rydyn ni'n credu bod oedolion sy'n dysgu yn elwa o allu dod o hyd i wybodaeth fanwl am yr eirfa maen nhw'n ei dysgu. Felly, ein nod yw creu diffiniadau trylwyr a chynhwysfawr, yn hytrach na rhai syml. O ganlyniad i hynny, mae'n debyg na fydd ein diffiniadau o fewn cyrraedd i blant nes eu bod nhw yn eu harddegau hwyr.
I grynhoi: unwaith bydd plentyn wedi cyrraedd oedran pan all elwa o dddefnyddio geiriaduron oedolion, ac unwaith rydych chi'n hapus i roi caniatâd iddyn nhw wneud hynny, gall Geirfan fod yn addas iddyn nhw. Fel gyda llawer o gynnwys ar-lein arall, fodd bynnag, basen ni'n eich annog chi i wirio'r safle eich hunan os ydych chi'n pryderu am ba mor addas ydy e i'ch plentyn chi.
Sut ydych chi'n dewis dyfyniadau enghreifftiol?
Mae tri math o enghreifftiau yn cael eu defnyddio yn Geirfan:
- enghreifftiau o air penodol yn cael ei ddefnyddio, wedi'u codi'n uniongyrchol o CorCenCC
- enghreifftiau o air penodol yn cael ei ddefnyddio, wedi'u haddasu o CorCenCC
- enghreifftiau wedi'u creu o air penodol yn cael ei ddefnyddio
Mae modd dod o hyd i ddyfyniadau Math (1) yng nghorpws CorCenCC yn union fel maen nhw'n ymddangos yn Geirfan (DS: mewn rhai achosion, mae'r enghreifftiau'n cynnwys newidiadau i briflythrennau ar ddechrau brawddegau ac atalanodi ar eu diwedd). Mae Math (2) yn ddyfyniadau o CorCenCC lle roedd angen newidiadau bach er mwyn eu gwneud nhw'n addas i Geirfan. Roedd hyn yn cynnwys, er enghraifft, dynnu rhannau o frawddeg allan er mwyn ei gwneud yn fyrrach, cywiro gwallau teipio, a rhoi geiriau eraill i mewn yn lle rhai anarferol/anodd fel y byddai'n haws i ddysgwr A1/A2 eu deall.
Mae dyfyniadau Math (3) ond yn cael eu defnyddio pan nad oes deunydd addas ar gael yn CorCenCC. Rheswm cyffredin dros ddefnyddio enghraifft wedi'i chreu yw dangos treiglad anarferol cytsain ddechreuol.
Hyd yn oed pan fydd rhaid defnyddio enghraifft Math (3), seilir y frawddeg ar ddata CorCenCC pan fo'n bosib. Defnyddir gwybodaeth am eiriau sy'n ymddangos gyda'i gilydd yn aml, er enghraifft, er mwyn sicrhau mae geirfa sy'n cyd-ddigwydd yn naturiol gyda'r gair ffocws sydd yn y frawddeg.
Pa mor fawr fydd Geirfan pan fydd wedi cael ei gorffen?
Chwe
chant o gofnodion yw'r targed cyntaf. Ar ôl hynny, gewn ni weld!