Croeso i Geirfan, geiriadur ar gyfer oedolion sy'n dysgu Cymraeg. Ysbrydolwyd Geirfan gan brosiect cydweithio i greu rhestr geiriau yn seiliedig ar ddata corpws, gan dîm yn cynnwys ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd, aelodau o brosiect CorCenCC (Corpws Cenedlaethol Cymraeg Cyfoes), y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, a CBAC/WJEC.

Ar hyn o bryd, dim ond 60 cofnod sydd yn y geiriadur achos mae'n mynd trwy gyfnod peilota. Yn ystod y cyfnod datblygu yma, mae'n hynod ddefnyddiol cael adborth gan ymwelwyr â'r safle am gynnwys a dyluniad Geirfan. Bydd yr adborth yma'n helpu gwella'r geiriadur ac i gynllunio sut i greu cofnodion yn y dyfodol.

Cysylltwch â Geirfan drwy ebost neu dewch i gael sgwrs ar Mastodon neu ar Trydar i roi eich adborth.

I ddechrau defnyddio Geirfan, gallwch...