Mae'r dudalen hon yn eich tywys ar fyr o eiriau drwy cynnwys Geirfan, gan ddefnyddio lluniau wedi'u labelu i ddangos trefniant y
geiriadur, ac i esbonio ystyr symbolau.
- Cliciwch/tapiwch i fynd adref.
- Teipiwch air Cymraeg yma i chwilio amdano yn y geiriadur.
- Rhaid clicio/tapio'r botwm i ddechrau chwilio.
- Botymau sy'n arwain at y tudalenau
adref, cyflwyno Geirfan, defnyddio Geirfan, a'r mynegai.
- Cliciwch/Tapiwch er mwyn chwarae clip sain.
- Cliciwch/Tapiwch er mwyn agor blwch gwybodaeth
defnyddiol sy'n berthnasol i'r eitem cyfagos. (Cliciwch/Tapiwch unrhywle ar y dudalen i gau'r
blwch eto).
- Mae'r symbol yn dangos nodyn sy'n eich
rhybyddio ynglŷn â gwallau iaith cyffredin.
- Mae'r triongl yn berthynol at
system lliwiau'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaetholl Ar ochr dde'r
triongl, rhoddir graddau anhawster y Common European Framework of Reference for Languages
(CEFR), a'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
- Cliciwch/tapiwch i glywed
person gydag acen o'r De yn ynganu'r prifair.
- Cliciwch/tapiwch i glywed
person gydag acen o'r Gogledd yn ynganu'r prifair.
- Canllawiau bras iawn ydy'r rhain, sy'n defnyddio confensiynnau
sillafu'r Saesneg. Dydy hi ddim bob amser yn bosib cynrychioli ynganiad y Gymraeg yn y
ffordd hon, fodd bynnag, felly ni ddylid eu defnyddio yn lle'r clipiau sain neu'r
trawsgrifiad ffonetig a roddir oddi tano.
-
Mae'r blwch gwybodaeth sydd ynghlwm â phob trawsgrifiad GFfR yn cynnwys dolen sy'n
cysylltu â tudalen Wikipedia Saesneg sy'n trafod y GFfR.
- Mae pob cofnod yn y geiriadur yn cynnwys o leiaf un adran
rhan ymadrodd. Cyflwynir y rhannau ymadrodd mewn blychau ar wahân.
- Rhoddir rhifau ar diffiniadau
(14a) pan fo adran rhan ymadrodd yn cynnwys mwy nag un prif ystyr. Ni roddir rhifau (14b)
pan fo un prif ystyr yn unig.
- Mae;r labelau hyn yn
cyflwyno gwybodaeth megis sut y defnyddir y prifair gyda geiriau eraill (15a), neu'r
arddull ieithyddol y mae'r prifair yn perthyn iddi (15b).
- Nodyn sy'n dilyn y diffiniad, yn rhoi
gwybodaeth ynglŷn ag agweddau o'r ystyr, megis cyd-destun ei defnydd, neu pynciau y cysylltir
yn aml â'r ystyr.
- Ymddengys yr adran hon ar
ddiwedd y rhan fwyaf o gofnodion y geiriadur. Mae'n cynnwys gwybodaeth pellach am y
prifair. Cliciwch/tapiwch ar y saethau trionglog ar yr ochr chwith er mwyn ehangu'r blwch
perthnasol.
- Mae blwch "in use" yn disgrifio rhyw
agwedd o ddefnydd y prifair.
- Pan fo cofnod yn y geiriadur am air sy'n
pwysig i'r drafodaeth, rhoddir dolen i fynd a chi at y cofnod.
- Dyma rhestr o dermau sy'n cynnwys y
brifair.
- Rhestr o idiomau ac ymadroddion
Cymraeg sy'n cynnwys y brifair.
- Gwybodaeth ynglyn â tharddiad y
prifair.
- Geiriau sy'n
rhannu gwreiddiau â'r prifair. Geiriau Cymraeg a geir yn "Family", a geiriau mewn amryw o
ieithoedd a geir yn "Connections".
- Geiriau Cymraeg sy'n rhannu thema
neu bwnc gyda'r prifair.
- Geiriau Cymraeg ag ystyr
tebyg
i'r prifair
neu ystyr sy'n wyrthwynebol i'r prifair.
- Adran sy'n rhestri
ffurfiau ar y prifair, er enghraifft treigladau, ffurfiau benywaidd/gwrywaidd, ffurfiau
lluosog, a.y.y.b.
- Weithiau, mae'n
ddefnyddiol
ychwanegu nodyn sy'n esbonio rhyw agwedd anodd neu annisgwyl ar ffurfiau'r prifair.